Morfa Bychan (ger Traeth y Graig Ddu)
Porthmadog,
Gwynedd,
LL49 9YH
Ar ôl i chi gyrraedd tref Porthmadog, dilynwch yr arwyddion ar gyfer Morfa Bychan a Thraeth y Graig Ddu (Ar Gyffordd â The Original Factory Shop). Wrth i chi gyrraedd pentref Morfa Bychan, parhewch drwy'r pentref am tua 1 filltir, tuag at Draeth y Graig Ddu. Wrth i'r ffordd gulhau i lôn sengl, fe welwch ni ar y dde, gydag arwydd Maes Carafanau Glan Morfa Mawr.
Wrth deithio i gyfeiriad y de ar yr A487 tuag at Borthmadog, unwaith rydych wedi mynd heibio Ysbyty Allt Wen (ar eich chwith), fyddwch yn cyrraedd cylchfan. Cymrwch yr ail allanfa tuag at Borthmadog. Peidiwch â chymryd y trydydd allanfa tuag at Bwllheli. (Fe wneith hyn arwain chi at ffordd gul sydd ddim yn addas i garafanau, fel ag esbonnir yn y darn nesaf). Parhewch i'r gylchfan nesaf a chymrwch y trydydd allanfa tuag at Ganol Dref Porthmadog a dilynwch y cyfarwyddiadau uchod.
Os yr ydych yn teithio ar y A497 i gyfeiriad y Dwyrain (o Griccieth tuag at Borthmadog) ac mae eich Sat Nav yn ei gorchymyn i droi i'r dde lawr ffordd gul ger pont rheilffordd, Peidiwch â mynd lawr y ffordd yma. Mae'r ffordd yn ANADDAS i garafanau!
Yn lle, parhewch i ddilyn y A497 i'r Dwyrain tuag at Borthmadog. Yn y gylchfan nesaf, cymrwch y Ail a pharhewch i ddilyn y ffordd i mewn i Borthmadog. Fyddwch yn cyrraedd cylchfan yng nghanol tref Porthmadog, cymrwch y trydydd allanfa a dilynwch y ffordd am oddeutu ~200 Metr (~700 Troedfedd), a pharhewch i ddilyn y cyfarwyddiadau uchod.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn Gweithredu gwasanaethau ar Reilffordd Arfordir y Cambrian yn rheolaidd. Yr orsaf agosaf yw Porthmadog, gyda gwasanaethau'n mynd tua'r Gorllewin tuag at Bwllheli, a'r Dwyrain i gyfeiriad Harlech, Abermaw ac ymhellach i ffwrdd.
Mae gwasanaethau Sherpa'r Wyddfa (Gwynfor Coaches) yn gweithredu'n rheolaidd yn ystod yr haf gyda safle bws ychydig lathenni o fynedfa'r safle. Mae Gwasanaeth S4 yn mynd i Ben-y-Pass trwy Borthmadog, lle gallwch ddal gwasanaethau eraill i gyrchfannau ymhellach i ffwrdd ar draws Gogledd Cymru. Bydd gwasanaeth Sherpa'r Wyddfa yn mynd â chi i galon Parc Cenedlaethol Eryri am ychydig o antur!
Gwiriwch Amserlenni Bysiau oherwydd gallant newid yn rheolaidd.