Prisiau 2025

Gwybodaeth i Westeion

Map o'r Safle

Gwybodaeth a Cysylltiadau Defnyddiol

Argyfyngau

Mewn Argyfwng deialwch 999, a chyfeiriwch y gweithredwr i Faes Carafanau Glan Morfa Mawr, Morfa Bychan, Gwynedd, LL49 9YH - Cyfeirnod Grid SH536375..
Wedyn, Pan fo’n gyfleus, cysylltwch â staff Glan Morfa Mawr:
  Yn ystod Oriau Gwaith (Llun - Gwener: 9am - 5pm | Sad: 10am - 12pm) - 01766 515133
  Y tu allan i Oriau Gwaith (neu os nad oes ateb uchod) - 07752 080336

Help a Chymorth

Os hoffech unrhyw help neu gymorth yn ystod eich arhosiad gyda ni, pediwch ag oedi gofyn i ni. Galwch heibio i'n gweld yn y Dderbynfa neu ffoniwch:
 Yn ystod Oriau Gwaith (Llun - Gwener: 9am - 5pm | Sad: 10am - 12pm) - 01766 515133
 Y tu allan i Oriau Gwaith (neu os nad oes ateb uchod) - 07752 080336

Ein Rheolau

Defnydd o Cerbydau Modur
  • Defnydd Cerbydau: Caniateir i westeion ddefnyddio eu ceir ar y safle; fodd bynnag, unwaith y bydd eich carafan neu carafanmodur wedi'i barcio, ceisiwch peidio defnyddio eich cerbyn os yn bosib er mwyn i ni greu amgylchedd tawel a diogel.
  • Cyfyngiad Cyflymder: Er mwyn blaenoriaethu diogelwch eir gwestai, yn benodol i blant a chwn, mae yna derfyn cyflymder o 5 milltir yr awr ar y safle. Gwerthfawrogir eich cydweithrediad.
  • Amser Cloi'r Gat: Am resymau diogelwch, bydd gatiau'r safle'n cael eu cloi am 10:30yh bob nos. Gwnewch yn siwr eich bod yn cynlluio eich teithiau yn unol â hyn.
  • Parcio Gwestai: Gofynnwn i bob gwestai sydd efo car i ddefnyddio y maes parcio ymwelwyr, sydd wedi'i leoli'n gyfleus o flaen y dderbynfa. Mae hyn yn sicrhau llai o draffig ar y safle ac yn annog amgylchedd mwy diogel i'n cymuned.
Polisi Cŵn
  • Gofyniad Tennyn: Er diogelwch a chyfforddusrwydd ein holl westeion, cadwch eich cŵn ar dennyn ar bob amser tra'r ydych ar y safle.
  • Dyletswydd Glanhau: Perchnogion sy'n gyfrifol am lanhau ar ôl eu cŵn. Defnyddiwch y biniau gwastraff a ddarperir i gael gwared ar unrhyw wastraff.
  • Cyfyngiad niferoedd y Carafan: Er mwyn sicrhau amgylchedd pleserus, caniatawn uchafswm o ddau gi ym mhob carafan.
Mynediad WiFi
  • Taliad: Mae mynediad at WiFi yn daladwy. Ymholwch yn y dderbynfa am fanylion prisio.
  • Tocynnau Mynediad: Gall gwesteion gael tocyn mynediad WiFi o'r dderbynfa. Mae'r tocyn yn darparu mynediad diogel a chyfleus yn ystod eich arhosiad.
  • Polisi Defnydd Teg: Er mwyn sicrhau mynediad teg ac uniongyrchol i'r holl westeion, rydym yn gorfodi polisi defnydd teg ar ein rhwydwaith WiFi. Defnyddiwch y rhyngrwyd yn gyfrifol.