Mae Glan Morfa Mawr yn ganolbwynt berffaith ar gyfer eich antur nesaf. Bydd taith gerdded fer neu siwrne bach yn y car yn eich arwain at rai o leoliadau harddaf yr ardal. Ymwelwch ag ehangder euraidd Traeth y Graig Ddu, darganfyddwch y coedwigoedd hynafol a’r rhaeadrau rhwng mynyddoedd Eryri, gwelwch bentref breuddwydiol Portmeirion, neu ymgolli mewn hanes yng nghastell Cricieth. Dechreuwch eich taith yma, trwy archwilio rhai o'n hoff atyniadau y mae'n rhaid eu gweld.
Cliciwch ar y gweithgareddau uchod i'w gweld ar y map!
Key: Pellter i'r Maes Carafanau Croeso i Gŵn Parcio ar gael Gwefan
Mae Traeth Y Graig Ddu yn draeth eang, agored gyda thywod aur man a nifer o dwyni. Mae’r traeth yn daith cerdded fyr o Lan Morfa Mawr, ond mae hawl gan geir yrru ar hyd y traeth hefyd. Mae digon o byllau cerrig ac ogofau i'w archwilio, ac mae gan y traeth olygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri. Gall y rhai sy'n chwilio am ychydig mwy o gyffro rhoi cynnig ar rai o'r llawer o chwaraeon dŵr ar gael neu fynd a’ch Jet Ski eich hun.
Cliciwch arnai i'm gweld ar y map!
Mae ein maes carafanau ym Morfa Bychan yn lleoliad perffaith i archwilio arfordir godidog Cymru. Dechreuwch eich taith o Lan Morfa Mawr a chrwydrwch ar hyd y llwybr yr arfordir ar hyd Bae Ceredigion. Mwynhewch olygfeydd anhygoel ar hyd y ffordd a chael cipolwg ar ddolffiniaid, morloi, llamhidyddion ac adar y môr. Ar y ffordd, gan fynd tua'r de gallech ymweld â phentref Eidalaidd Portmeirion ac archwilio'r arfordir i gyfeiriad Harlech. Wrth fynd tua'r gogledd, fyddwch yn crwydro Penrhyn Llŷn, ardal sydd wedi'i dynodi'n un o Harddwch Naturiol Eithriadol. Pan gyrhaeddwch ddiwedd eich taith, gallwch elwa o'r cysylltiadau trafnidiaeth ragorol i ddod â chi nôl.
Cliciwch arnai i'm gweld ar y map!
Clwb golff cyffrous 18 twll ym mhentref Morfa Bychan yw Clwb Golff Porthmadog. Mae cwrs yn gymysgedd o dyllau barcdir a links, a ddisgrifiwyd gan y bobl leol fel rhai cyfeillgar, ond heriol. Mae’r clwb golff o safon yma yn cynnig 2 maes ymarfer, rhwyd ymarfer a lawnt bytio ymarfer ar y safle i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich rownd. Mae bygis, trolïau trydan a throlïau tynnu ar gael i’w llogi o’r siop pro, ac mae croeso i chi fwynhau pob rhan o’r clwb pan fydd eich gêm drosodd.
Cliciwch arnai i'm gweld ar y map!
Taith 15 munud yw hi i bentref hudolus Portmeirion. Mae'r atyniad twristaidd hynod boblogaidd hwn, wedi'i ysbrydoli gan ffasadau lliw Portofino yn yr Eidal. Byddwch yn cael eich swyno gan yr adeiladau breuddwydiol, lliw pastel, piazzas, gerddi addurniadol a ffynhonnau cerfiedig. Fodd bynnag, mae Portmeirion yn cynnig mwy na phensaernïaeth hardd. Mae’r safle hefyd yn cynnwys dau westy moethus, sba, siopau anrhegion, bwytai, caffis a gelateria sy’n cynnig blas o’r Eidal yng Nghymru.
Cliciwch arnai i'm gweld ar y map!
Ewch ar daith i'r gorffennol gyda reid fythgofiadwy ar locomotif stêm. Mae Porthmadog yn gartref i ddwy reilffordd stêm traddodiadol, sef Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru. Beth am daith ar hyd Rheilffordd Ffestiniog, yr holl ffordd i dre hanesyddol Blaenau Ffestiniog? Neu gallwch fynd ar daith coetir trwy galon Parc Cenedlaethol Eryri, gan aros am dro ym myd natur a lluniaeth yn ystafelloedd te Tan-y-bwlch. Bydd eich teulu cyfan yn cael eu swyno gan y daith, a gallwch hyd yn oed ddod â'ch ci gyda chi ar eich taith.
Cliciwch arnai i'm gweld ar y map!