Darganfyddwch y golygfeydd naturiol mwyaf syfrdanol y byd a dewch o hyd i antur yn y man lle mae hanes yn cwrdd â chwedl. Mae maes carafanau Glan Morfa Mawr yn gartref cynnes oddi cartref, wedi’i leoli’n berffaith rhwng mynyddoedd godidog Parc Cenedlaethol Eryri ac ehangder arfordirol Bae Ceredigion.
I chi sy'n chwilio am lonyddwch, fe wnewch ddod o hyd iddo gyda golygfeydd naturiol heb eu difetha, treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a llwybrau llai sathredig yr ardal leol. Bydd ymwelwyr sy'n chwilio am antur yn dod o hyd iddo yn y mynyddoedd helaeth, traethau hir euraidd, a gweithgareddau gwefreiddiol fel canŵio, syrffio, rafftio afon a chaiacio.
Pan fyddwch yn aros yma yng Nglan Morfa Mawr, byddwch yn profi maes carafanau sy’n cael ei gynnal a’i gadw i'r safonau uchaf bosib, sy’n addas i deuluoedd gyda digon o le a chyfleusterau modern. Gallwch ddefnyddio ein golchdy ar y safle, paratoi prydau iach yn ein hystafell paratoi llysiau, neu ffresio yn ein hystafelloedd ymolchi cwbl hygyrch. Gallwch hyd yn oed ddod â'ch ci gyda chi ar gyfer eich gwyliau!
Fydd ein siop fach ar safle yn cynnig eich holl hanfodion gwyliau, a bydd ein tîm ar gael yn y dderbynfa i roi digon o gyngor i chi ar sut i wneud y gorau o’ch dihangfa Gymreig.
Dewch i un o leoliadau hardda’r byd. Dechreuwch eich taith i Glan Morfa Mawr drwy gysylltu â ni: